
Yr Wyddfa - llwybr Llanberis
Taith ar hyd llwybr Llanberis gydag arweinydd proffesiynol fydd yn eich arwain i’r copa! Mae ein harweinyddion yn byw'n lleol ac yn wybodus iawn am yr ardal o gwmpas Yr Wyddfa. Maent oll yn ymwybodol o'r hanes sydd ynghlwm â’r Wyddfa ac ardaloedd eraill yng Ngogledd Cymru. Mae gostyngiadau yn berthnasol i grwpiau o bedwar neu ragor.Cysylltwch er mwyn trafod dyddiau preifat,
Yn addas i
- bobl sydd ddim yn gerddwyr mynydd ond sy'n awyddus i gyrraedd copa'r Wyddfa.
- bobl sy'n awyddus i ddringo neu'n awyddus i gael profiad cyntaf ar fynydd.
- bobl sy'n awyddus i ymuno â grŵp cyfeillgar ar daith ddiogel, wedi ei threfnu'n dda.
Cyrsiau yn cynnwys
- Arweinydd Mynydd Profiadol
- Trafnidiaeth lle bod angen
Crynodeb o’r teithiau
Anhawster
Y ffitrwydd sy’n ofynnol
Teithiau
1 diwrnod
Cost y teithiau
£50
Cymhareb teithiau
1:10
Yr amser sy’n ofynnol
1 diwrnod
Argaeledd
Ia
Dechrau
Disgrifiad o’r teithiau
Byddwn yn cychwyn o Lanberis ac yn anelu am y giât mynydd ymhle fydd y llwybr yn dechrau mynd yn serth. Yna byddwn yn parhau i ddilyn y llwybr nes cyrraedd y copa! Ar ddiwrnod clir, mae’r golygfeydd o'r copa'n wych ac wrth gerdded yn ôl bydd cyfle i edrych ar draws y Fenai at Sir Fôn. 9 milltir yw pellter y daith a byddech yn falch iawn o'ch hun wedi cwblhau’r daith hon.
Nodyn: Mae ein holl arweinyddion yn brofiadol, gyda'r cymhywsterau priodol ac yn awyddus i ddarparu’r profiadau gorau posib i chi tra’n sicrhau eich diogelwch.
Amserlen y teithiau
- 9yb cyfarfod yn Llanberis
- 9.30yb cychwyn y daith
- 12.30yh cyrraedd y copa
- 1yh cychwyn o'r copa
- 4yh cyrraedd Caffi Pen Ceunant
- 5yh cyrraedd Llanberis
Amseroedd bras yw rhain.
Bydd yr holl fanylion yn cael eu gyrru atoch wedi i chi gwblhau'r ffurflen a thalu.
Darllenwch neu lawrlwythwch ein telerau ac amodau.
TELERAU AC AMODAU
Adolygiadau o’r teithiau
Un flwyddyn yn ddiweddarach a lluniau wedi codi ar fy ffon. Am ddiwrnod anhygoel a gawsom ni oll. Dwi'n ofn uchder ond roeddwn i'n gwybod fy mod eisiau goncro fy ofn, roedd Steve wedi fy helpu yr holl ffordd.Mae'n gwneud i mi am ddringo mwy a throsodd. Diolch am eich sgiliau a'ch gwybodaeth.
Louise a ffrindiau
Lluniau






