Sgiliau gaeaf (20/01/2019)

Sgiliau gaeaf

Diwrnod gyda Barry a Gethin heddiw ar ein cwrs sgiliau gaeaf. Awyr las, cawodydd o eira ac amodau amrywiol dan draed yn cyfrannu tuag at diwrnod bendigedig ar y mynyddoedd. Cyfle i ddysgu sut i ddefnyddio caib rhew a chramponau yn ogystal a darganfod sut a pam mae eira yn gallu newid yn y mynyddoedd yn ogystal a llawer o sgiliau eraill.Cwrs Cymraeg oedd hwn felly os hoffech chi dysgu sgiliau gaeaf a cael profiad arbennig gyda hyfforddwr Cymraeg cysylltwch a ni neu ewch draw at ein tudalen sgilau gaeaf am fwy o wybodaeth!


Sgiliau gaeaf Gallery