
Sgiliau Mynydd
Mae ein cyrsiau sgiliau mynydd yn addas i bobl sydd eisiau trosglwyddo eu profiad yn cerdded i diroedd mwy cymhleth a heriol. Rydym yn anelu i dreulio cymaint o amser â phosib allan ar y mynyddoedd er mwyn canolbwyntio ar yr ochr ymarferol.Fydd ein hyfforddwyr profiadol yn wneud siwr eich bod yn mwynhau eich hunain wrth cerdded mynyddoedd Eryri!
Yn addas i
- Cerddwyr sydd eisiau trosglwyddo eu profiad i diroedd mwy cymhleth a heriol.
- Bobl sydd yn awyddus i gael y sgiliau hanfodol i gerdded mynyddoedd Prydain yn annibynnol.
- Cerddwyr sy'n dymuno ehangu a gwella eu sgiliau mordwyo.
Cyrsiau yn cynnwys
- Trafnidiaeth
- Llawlyfr sgiliau
- Tystysgrif Presenoldeb
- Cofrestru yn y llyfr lòg ar-lein
Crynodeb o’r cwrs
Anhawster
Y ffitrwydd sy’n ofynnol
Hyd y cwrs
2 diwrnod
Cost y cwrs
£120
Cymhareb cwrs
1:8
Yr amser sy’n ofynnol
2 ddiwrnod
Argaeledd
Ia
Calendr
Disgrifiad o’r cwrs
Mae ein cyrsiau sgiliau mynydd yn addas i bobl sydd eisiau trosglwyddo eu profiad cerdded i diroedd mwy cymhleth a heriol. Mae angen ffitrwydd rhesymol er mwyn cerdded y tir mynyddig. Fyddwn yn dysgu sgiliau darllen map a defnyddio chwmpawd yn ystod y ddau diwrnod. Rydym yn anelu i dreulio cymaint o amser â phosib allan ar y mynyddoedd er mwyn canolbwyntio ar yr ochr ymarferol.
Gallwch cofrestru am yr elfen archrededig o'r cwrs trwy cofrestru ar wefan Mountain Training a talu'r cost ychwanegol sef:
Oedran 12-24 : £10
Oedran 25 a drosodd: £20
Fydd hyn yn cynnwys llawlyfr sgiliau, cardyn amseru, dyddiadur ar lein a tystysgrif ar ol cwblhau ein cwrs 2 ddiwrnod.
Mae gennym rhestr o mannau aros ar waelod y tudalen yma neu cysylltwch a ni os gallwn helpu gyda'ch trefniadau.
Os nad yw ein dyddiadau yn addas i chwi cysylltwch er mwyn i ni trfenu dyddiad sy'n mwy cyfleus!
Nodyn: Mae ein holl arweinyddion yn brofiadol, gyda'r cymhywsterau priodol ac yn awyddus i ddarparu’r profiadau gorau posib i chi tra’n sicrhau eich diogelwch.
Amserlen y cwrs
Diwrnod 1
- Cyfarfod 9yb diwrnod cyntaf (o dan do)
- 1 awr o theori.
- Trafod y ffactorau sydd yn effeithio ar gynllunio taith ar fynydd gan gynnwys tywydd, dillad a thechnoleg.
- Datrys problemau a chynllunio taith drwy dir mynyddig.
- Mynediad a chadwraeth, cymorth cyntaf a gweithdrefnau argyfwng.
- Mordwyo yn cynnwys mapiau ac offer technegol.
- Taith i mewn i dir mynyddig sy'n cynnwys trafod ac ymarfer themâu'r cwrs.
- Diwrnod 1 yn gorffen oddeutu 5yh gydag adborth a thrafod elfennau'r ail ddiwrnod.
Mae amseroedd ar y mynydd yn rhai bras.
Fydd manylion llawn yn cael eu gyrru allan ar ôl taliad llawn a chwblhau'r ffurflen.
Darllenwch neu lawrlwythwch ein telerau ac amodau.
TELERAU AC AMODAU
Adolygiadau o’r cwrs
Diolch am yr hyfforddiant gwych! Ddaru ni fwynhau'r cwrs yn fawr a ddoe rhoddwyd yr sgiliau hynny i ymarfer trwy gynllunio, llywio a gyrraedd Glyder Fawr. Roeddem wrth ein bodd! Byddwn ni'n ôl ar gyfer y cwrs sgiliau gaeaf !!
Sophie a Chris
Dau ddiwrnod gwych ar gwrs sgiliau mynydd hefo Stephen. Addasodd y dysgu i weddu sgiliau pob unigolyn o fewn y grŵp. Gwnaeth hyn mewn ffordd gyfeillgar a gwybodus gyda'r lefel gywir o her.
Paul
Mynychais gwrs sgiliau mynydd yr wythnos hon gyda Stephen. Wedi dysgu digon o dechnegau ymarferol da ar lywio, cynllunio llwybrau, ac aros yn ddiogel yn y mynyddoedd. Mae pob un yn cael ei roi mewn modd tawel, heb farn. Dyn pleserus iawn a chwmni da. Byddwn yn argymell y cwrs hwn i unrhyw un sy'n ceisio gwella eu sgiliau ac ennill hyder yn y mynyddoedd!
Allen
Dyn gwych, cwrs gwych, byddwn yn argymell i unrhyw un. Wedi cael amser gwych yn y mynyddoedd gyda phobl wych. Diolch i chi Steve.
Dawn
Lluniau







