
Sgiliau Mynydd yn Eryri
Mae ein cwrs Sgiliau Mynydd yn ddewis delfrydol i gerddwyr sydd â diddordeb mewn trosglwyddo eu sgiliau cerdded i dir mwy mynyddig. Mae'r ddau ddiwrnod yn ffordd wych o ddysgu sgiliau sylfaen ar gyfer cerdded mynyddoedd yn mwy hyderus ac annibynnol. Rydyn ni'n sicrhau bod gennych chi ddigon o gyfleoedd i brofi ac ymarfer sgiliau newydd a byddwch chi'n treulio dau ddiwrnod yn cerdded mynyddoedd syfrdanol Eryri. Byddwn yn ymdrin â sut i gynllunio teithiau cerdded mynyddoedd, deallt tywydd mynyddig a sut mae'n effeithio ni wrth gerdded, llywio, gweithdrefnau brys a llawer mwy!
Dyma be oedd Paul o Lerpwl yn meddwl o'r cwrs:
"Wedi mynychu cwrs sgiliau mynydd yr wythnos hon gyda Stephen. Stwff gwych. Wedi dysgu digon o dechnegau ymarferol da ar llywio, cynllunio taith, ac aros yn ddiogel yn y mynyddoedd. I gyd wedi eu rhoi drosodd mewn ffordd ddigynnwrf, anfeirniadol. Boi gwybodus iawn a chwmni da. Byddwn yn argymell y cwrs hwn i unrhyw un sydd am gwella eu sgiliau a magu hyder yn y mynyddoedd!"
Sgiliau Mynydd yn Eryri
Yn addas i
- Cerddwyr bryn rheolaidd
- Unigolion
- Grwpiau bychain
Cyrsiau yn cynnwys
- Rhestr offer a cyngor cyfeillgar
- Offer diogelwch grŵp
- Tystysgrif Presenoldeb
- Hyfforddwr cymwys, yswiriedig a phrofiadol
Crynodeb o’r cwrs
Anhawster
Y ffitrwydd sy’n ofynnol
Hyd y cwrs
2 diwrnod
Cost y cwrs
£150
Cymhareb cwrs
1:6
Yr amser sy’n ofynnol
2 ddiwrnod
Argaeledd
Ia
Dyddiadau
Dyddiad | Cwrs | Pris |
23-07-2022 | 2 Ddiwrnod | £150 |
03-08-2022 | 2 Ddiwrnod | £150 |
17-09-2022 | 2 Ddiwrnod | £150 |
Disgrifiad o’r cwrs
Mae ein hyfforddwyr yn brofiadol, wedi'u hyswirio, cymhwysedig a byddant yn sicrhau eich bod chi'n mwynhau'r ddau ddiwrnod wrth ddatblygu'ch sgiliau ar gyflymder cyson a blaengar. Yn ddelfrydol, bydd gennych rywfaint o brofiad sylfaenol o gerdded bryniau a mynd am uchelfannau gan y byddwn yn anelu at gynnwys rhywfaint o sgramblo syml dros y ddau ddiwrnod. Ar ôl i chi archebu byddwn yn anfon rhestr offer a llythyr ymuno atoch gyda gwybodaeth am y ddau ddiwrnod ac rydym bob amser ar gael i gael cyngor neu sgwrs os oes gennych unrhyw bryderon!
Nodyn: Mae ein holl staff yn gymwys, wedi'u hyswirio, yn brofiadol ac yn meddu ar gymwysterau cymorth cyntaf cyfredol.
Amserlen y cwrs
- Cyfarfod 9yb diwrnod cyntaf
- Trafod y ffactorau sydd yn effeithio ar gynllunio taith ar fynydd gan gynnwys tywydd, dillad a pheryglon.
- Datrys problemau a chynllunio taith drwy dir mynyddig.
- Mynediad a chadwraeth, cymorth cyntaf a gweithdrefnau argyfwng.
- Llywio yn cynnwys mapiau ac offer technegol.
- Taith i mewn i dir mynyddig sy'n cynnwys trafod ac ymarfer themâu'r cwrs.
- Diwrnod yn gorffen oddeutu 5yh gydag adborth a thrafod elfennau'r ail ddiwrnod.
Bydd Diwrnod 2 yn barhad o bynciau'r cwrs o fewn taith fynyddig wrth fwynhau rhai o'r golygfeydd gorau yn Eryri!
Mae amseroedd ar y mynydd yn rhai bras.
Cysylltwch â ni i gael dyddiadau eraill a gostyngiadau grŵp.
Fydd manylion llawn yn cael eu gyrru allan ar ôl taliad llawn a chwblhau'r ffurflen.
Darllenwch neu lawrlwythwch ein telerau ac amodau.
TELERAU AC AMODAU
POLISÏAU PREIFATRWYDD, CWCIS A GDPR
Adolygiadau o’r cwrs
Cofrestrais ar y cwrs sgiliau mynydd yn y gobaith o ddysgu rhai sgiliau mynydda sylfaenol a dod yn fwy hyderus ar y mynyddoedd. Rhagorodd y cwrs ar fy holl ddisgwyliadau. Gwnaethom ymdrin â'r holl agweddau yr oeddwn wedi gobeithio amdanynt, a mwy. Nid oeddwn erioed wedi defnyddio map a chwmpawd ac erbyn hyn rwy'n teimlo'n hyderus y gallaf gynllunio llwybr yn ddiogel a llywio'r llwybr. Atebwyd yr holl bryderon a gefais, ac rwyf bellach yn teimlo'n hyderus i fentro allan ar fy mhen fy hun. Gwnaethom hefyd gwmpasu gwahanol diroedd trwy gydol y cwrs. Sicrhaodd Stephen fod cyflymder y cwrs yn addas i bawb a'i gwnaeth yn bleserus i bawb. Trwy gydol y dydd dysgais lawer iawn am fywyd gwyllt, hanes, daearyddiaeth a daeareg yr ardal. Fe wnes i fwynhau'r cwrs yn fawr ac rwy'n ei argymell i unrhyw un sydd â diddordeb mewn mynydda.
Caroline
Wedi treulio dau ddiwrnod gyda Steve a'i dîm yn gwneud cwrs sgiliau mynyddoedd - roedd popeth amdanyn nhw o'r dechrau i'r diwedd yn dda iawn. Yn wybodus, yn gyfeillgar ac yn gefnogol bob cam o'r ffordd - byddwn yn bendant yn eu hargymell a byddaf yn bendant yn eu defnyddio eto.
Matt
Diolch am yr hyfforddiant gwych! Ddaru ni fwynhau'r cwrs yn fawr a ddoe rhoddwyd yr sgiliau hynny i ymarfer trwy gynllunio, llywio a gyrraedd Glyder Fawr. Roeddem wrth ein bodd! Byddwn ni'n ôl ar gyfer y cwrs sgiliau gaeaf !!
Sophie a Chris
Dau ddiwrnod gwych ar gwrs sgiliau mynydd hefo Stephen. Addasodd y dysgu i weddu sgiliau pob unigolyn o fewn y grŵp. Gwnaeth hyn mewn ffordd gyfeillgar a gwybodus gyda'r lefel gywir o her.
Paul
Mynychais gwrs sgiliau mynydd yr wythnos hon gyda Stephen. Wedi dysgu digon o dechnegau ymarferol da ar lywio, cynllunio llwybrau, ac aros yn ddiogel yn y mynyddoedd. Mae pob un yn cael ei roi mewn modd tawel, heb farn. Dyn pleserus iawn a chwmni da. Byddwn yn argymell y cwrs hwn i unrhyw un sy'n ceisio gwella eu sgiliau ac ennill hyder yn y mynyddoedd!
Allen
Dyn gwych, cwrs gwych, byddwn yn argymell i unrhyw un. Wedi cael amser gwych yn y mynyddoedd gyda phobl wych. Diolch i chi Steve.
Dawn
Lluniau









